Dychmygu Iaith
2022
Online
E-Book
Zugriff:
Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly'r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o'r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?'Gan mai yng nghyd-destun dathlu canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru yr ysgogwyd y llyfr, dewiswyd y testun gan ei fod yn gydnaws â dau o brif themâu cyhoeddiadau'r Wasg. Ar y naill law, mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac ar y llall ehangu ein gwerthfawrogiad o ddiwylliant Ewrop a'r byd. Mewn cyfuniad unigryw sy'n cwmpasu esiamplau o gerddi mewn ieithoedd dan fygythiad a rhai prif ffrwd, dyma lyfr sy'n ein hannog i ystyried o'r newydd gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio'n feunyddiol.
Titel: |
Dychmygu Iaith
|
---|---|
Autor/in / Beteiligte Person: | Hopwood, Mererid |
Veröffentlichung: | 2022 |
Medientyp: | E-Book |
ISBN: | 978-1-78683-921-3 (electronic) |
Schlagwort: |
|
Sonstiges: |
|